English
Gweithdai Rydym yn darparu gweithdai arloesol mewn gwyddoniaeth gyfrifiadurol ar gyfer pobl ifanc ar draws Cymru.

Croeso i Technocamps

Ein nod yw i ysbrydoli, ysgogi ac ennyn diddordeb pobl â meddwl cyfrifiadurol ac i hyrwyddo Cyfrifiadureg fel nodwedd sy'n sylfaen i bob agwedd o gymdeithas fodern.

Ein rhaglen

Ers 2003, mae Technocamps wedi bod yn darparu gweithdai ymarferol cyfrifiadurol i ysbrydoli, ysgogi ac ennyn diddordeb pobl ifanc. Yn benodol, yn ystod y ddwy flwyddyn ysgol rhwng 2014-2016, ar gyfartaledd darparon ni 9 awr o weithdai mewn 97% o ysgolion uwchradd a chefnogir gan y wladwriaeth yng Nghymru.

Gyda'n rhaglen Buarth Chwarae Cyfrifiadura rydym yn darparu gweithdai rhyngweithiol undydd mewn ysgolion cynradd, un dosbarth ar y tro. Yn ystod y flwyddyn ysgol 2016-2017 darparon 175 o weithdai mewn ysgolion cynradd i dros 4000 o ddisgyblion a'u hathrawon.

Gyda'n rhaglen Technoteach rydym yn darparu sesiynau hyfforddi DPP hanfodol i wella sgiliau athrawon TGCh yn y cwricwlwm cyfrifiadureg newydd. Yn benodol, rydym yn darparu cymhwyster achrededig lefel NQF, y Dystysgrif Addysgu Cyfrifiadureg. Dros y ddwy mlynedd diwethaf cyflawnwyd 31 o athrawon y dystysgrif hon yn dilyn blwyddyn lawn o weithdai Technoteach; ac mae 46 o athrawon ar hyn o bryd yn ymgymryd â hyfforddiant y dystysgrif hon yn ystod y flwyddyn ysgol 2017-2018.

Adnoddau poblogaidd

Resource

Adnoddau gweithdai ar gyfer cydweithrediad â theatr na nÓg a'u cynyrchiadau addysgol, Eye of the Storm ac Y Bluen Wen.

Resource

Grwp o weithdai sy'n canolbwyntio ar algorithmau gan ddefnyddio Python, Greenfoot, HTML, ac iaith gydosod.

C3
Resource

Mae’r rhaglen Codio’r Cwricwlwm Cyfan (C3) yn cynnig amrywiaeth o destunau i gael myfyrwyr i gymryd rhan mewn gweithgareddau Cyfrifiadureg ar draws ystod o bynciau.

Resource

Nod y gweithdy hwn yw datgysylltu disgyblion o'r syniad bod cyfrifiadura yn golygu defnyddio cyfrifiadur fel teclyn.

Resource

Mae App Inventor yn ffordd gyflym, hawdd ac am ddim i unrhyw un greu app Android, heb angen profiad o raglennu.

Resource

Mae Arduino yn ficro-prosesydd bach sy’n eich galluogi i wneud cit electronig neu brototeip robotig a all symud, neu ryngweithio â’r amgylchedd o’i gwmpas.

Newyddion diweddaraf

Dathlu llwyddiant deunaw o athrawon sydd wedi cwblhau eu cymhwyster VTCT gyda Technocamps

Gan ddechrau yn nhymor yr Hydref 2019, bydd Technocamps unwaith eto yn cynnig cyfle am ddim i athrawon i wella sgiliau mewn gwyddoniaeth gyfrifiadurol.

Unwaith eto, cafodd Technocamps y fraint o gael ei wahodd i gymryd rhan yn y digwyddiad anhygoel hwn sy'n hyrwyddo perthnasoedd rhwng Gwyddoniaeth, Ymchwil a Diwydiant yng Nghymru.

Mae Prifysgol Abertawe yn parhau i wella ei henw da am estyn allan at y gymuned ehangach trwy lansio CoSMOS yn swyddogol, sef Gofod Allgymorth newydd Margam y Coleg Gwyddoniaeth.

Dychwelodd Tîm Egni, o Ysgol Glan Clwyd, o'r Unol Daleithiau yn ddiweddar, a hynny ar ôl cynrychioli Cymru yng Ngŵyl y Byd FIRST yn Detroit.

Rheolwr Gweithrediadau Technocamps, Stewart Powell, yn mynd allan i Detroit, yr Unol Daleithiau, i ymuno â'r tîm beirniadu ar gyfer y digwyddiad mawreddog hwn, a gyflwynir gan Qualcomm®Incorporated

Mae Cystadleuaeth Roboteg Technocamps yn rhedeg unwaith eto eleni gyda'r rownd terfynol yn digwydd ar y 17eg o Orffenaf, 2019.

Technocamps yn ymuno â'r hwyl yn ystod digwyddiad Dydd Sul o Wyddoniaeth Wych yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.


Dewch yn Rhan

Oes gennych chi ddiddordeb mewn trefnu gweithdy Technocamps ar gyfer eich ysgol neu goleg? Rydym yn cynnig amrywiaeth o weithdai yn seiliedig ar feddwl cyfrifiannol i gefnogi myfyrwyr a staff trwy CA2 i CA5. Cysylltwch â ni i gael gwybod mwy.

Cysylltu â'r Tîm


Mae'r prif bartner, Prifysgol Abertawe, yn elusen gofrestredig. Rhif. 1138342