Her Codio y DVLA cyntaf yn llwyddiant enfawr!

adminCystadleuaeth, Digwyddiad, Newyddion, Newyddion a Digwyddiadau

Ar Ddydd Mawrth 28ain o Dachwedd, daeth timoedd ysgolion ledled Cymru i gystadlu yn Her Codio y DVLA a chefnogwyd gan Technocamps.

Gwelwyd dros 60 o ysgolion yn cymryd rhan yn y gystadleuaeth; a dros 180 o blant a 150 o oedolion yn mynychu’r digwyddiad gyda bron 2,000 yn ymuno trwy’r ffrwd fyw ar draws Cymru. Fel rhan o’r digwyddiad, cyflwynodd y 5 tîm gorau eu hymgeisiadau yn seiliedig ar un o bedwar thema:

Thema 1: Adeiladwch gêm sy’n amlygu’r frwydr mae morfilod cefngrwm yn ei hwynebu oherwydd llygredd yn ein Moroedd, yn arbennig oherwydd y gorddefnydd o blastigau a allai arwain at dranc.

Thema 2: Adeiladwch gêm sy’n amlygu’r dilynol – mae’n well bod yn berson dymunol na bod yn fwli, ar-lein neu yn y byd go iawn.

Thema 3: Adeiladwch gêm ynghylch sut olwg fyddai ar y byd os nad oedd unrhyw geir ar y ffordd?

Thema 4: Adeiladwch gêm sy’n amlygu sut all pobl ifanc weld peryglon ac aros yn ddiogel wrth feicio.

Dywedodd Yr Athro Faron Moller o Technocamps “Roedd safon yr ymgeisiadau yn rhagorol; ond beth ddaeth i’r amlwg yn fwyaf oedd faint o hwyl gaeth y timoedd gwnaeth cystadlu.”

I ddewis yr enillwyr, defnyddiwyd arolwg ar-lein lle pleidleisiwyd dros 600 o bobl.

Yr enillwyr terfynol oedd tîm o Ysgol Gynradd Brynbuga’r Eglwys yng Nghymru wnaeth ennill cyfarpar TGCh gwerth dros £3000 ar gyfer eu hysgol. Roedd ei gêm “Achub Humpity Humpback” yn herio chwaraewyr i achub Humpity trwy gasglu gwastraff plastig ac ateb cyfres o gwestiynau.

Gallech weld eu fideo fan hyn:

 https://www.youtube.com/watch?v=HcYtCYJ3QyI&feature=youtu.be

Gwnaeth compère y digwyddiad, Lucy Owen cymryd rhan gyda gweithgareddau’r diwrnod er mwyn hybu pwysigrwydd meddwl cyfrifiadurol, gan gyflawni’r “Problem jygiau Dŵr” yn llwyddiannus.

 Ar y cyfan, roedd y digwyddiad yn llwyddiant enfawr a gwnaeth ysbrydoli cannoedd o ddisgyblion ar draws Cymru i ddechrau ar eu taith codio.