Cyfle DPP Achrededig AM DDIM ar gyfer athrawon ledled Cymru!

adminNewyddion, Newyddion a Digwyddiadau

Mae Technocamps unwaith eto yn cynnig cyfle gwych ac unigryw i athrawon o ysgolion cynradd ac uwchradd ledled Cymru; hyfforddiant tuag at y Dystysgrif (QCF) achrededig Lefel 3 mewn Cyfrifiadura ar gyfer Athrawon, gan ddechrau yn Nhymor yr Hydref 2017. Mae Technocamps yn cynnig y cymhwyster hwn yn RHAD AC AM DDIM i athrawon ac ysgolion.

Mae'r cymhwyster hwn yn rhoi cyfoeth o gynnwys a gwybodaeth phedagogaidd i alluogi a gwella darpariaeth y Fframwaith Cymhwysedd Digidol, Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfrifiadureg ac (ar gyfer athrawon ysgolion uwchradd) y manylebau TGAU a Safon Uwch newydd mewn Cyfrifiadureg. Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno mewn sesiynau ymarferol a deniadol gan Swyddogion Cyflwyno Technocamps profiadol gyda'r cwrs wedi ei rannu dros 18 sesiwn diwrnod llawn trwy gydol y flwyddyn ysgol. 

Mae'r Dystysgrif yn cynnwys pedair uned sy'n cwmpasu amrywiaeth o bynciau, o raglennu i theori. Mae'r oriau dysgu dan arweiniad a argymhellir ar gyfer pob uned yw 30 awr. Bydd asesu ar gyfer pob uned yn gofyn i athrawon i gynhyrchu cynllun gwaith manwl ar ffurf electronig, ac adnoddau dysgu i gefnogi cyflwyno cyfres o fwy na phedwar i chwe gwers ar gyfer yr uned honno sy'n dangos dealltwriaeth yr athro o sut i gyflwyno ei gynnwys mewn ffordd ddiddorol yn yr ystafell ddosbarth. Hon fydd y drydedd flwyddyn i ni gynnal y rhaglen hon, gyda 30 o athrawon yn cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus gyda ni. 

Rydym wedi cael dwy garfan yn cwblhau'r cwrs yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf gyda phob un o'r athrawon yn adrodd yn ôl ei fod wedi cael effaith sylweddol ar eu hunain, eu hysgolion, ond yn enwedig eu disgyblion. Gallwch ddarllen mwy am lwyddiant yr ail garfan yma. Gallwch gael gwybod mwy am ein carfan gyntaf fan hyn.

I gael mwy o wybodaeth am y cwrs, gweler y llyfrynnau yn ogystal â'r ffurflen gais isod:

VTCT_Primary_Brochure_2017.pdf

VTCT_Secondary_Brochure_2017.pdf

VTCT_Application_Form.pdf