Plant Ysgol Gynradd Hendrefoelan yn Dysgu i Godio

adminNewyddion a Digwyddiadau

Clwb codio arloesol a ddechreuwyd gan Jimi Breisford-Smith; mae disgybl Blwyddyn 6 yn Ysgol Gynradd Hendrefoelan bellach yn cael ei gefnogi gan Technocamps. Yn y clwb, mae disgyblion wedi bod yn hunan-addysgu cysyniadau megis datblygu gwefannnau, Javascript, a mwy. Mae aelodau'r clwb yn frwdfrydig iawn ac yn dewis treulio amser yn y clwb yn ystod eu hawr ginio. 

Gofynnwyd Technocamps i helpu i gefnogi'r clwb hwn, ac roedden yn fwy na pharod i helpu. Mae un o'n llysgenhadon, Kevin; myfyriwr Meistr Peirianneg Meddalwedd, yn awr yn ymweld â'r clwb bob dydd Mercher er mwyn helpu i gymryd y clwb ymhellach. 

Yn y sesiynau mae Technocamps yn darparu, rydym yn helpu i gyflwyno'r blociau adeiladu mae pob gwyddonwr cyfrifiadurol yn defnyddio o ddydd i ddydd. Yn fuan y gobaith yw y bydd y clwb yn trosglwyddo i ddefnyddio'r BBC Micro:bit i ddechrau dysgu'r plant sut mae'r cysyniadau maent wedi dysgu yn berthnasol i fwy na datblygu gwefnanau yn unig. 

Ymddangosodd y clwb yn yr Evening Post yn ddiweddar.