Cinio Diwrnod Rhyngwladol Menywod ITWales – Dathlu Menywod ym maes TG yng Nghymru "Cefnogi Datblygiad Gyrfa Cynnar"

adminDigwyddiad, Newyddion, Newyddion a Digwyddiadau

Mae dathliad blynyddol Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ITWales yn rhoi cipolwg o'r amrediad amrywiol o gyfleoedd sydd ar gael o ran busnes a gyrfaoedd i fenywod yn yr 21ain Ganrif, ac yn cynnig platfform i fenywod ar gyfer rhannu profiadau, gwybodaeth ac arfer gorau, yn arbennig y rhai hynny sy'n gweithio ym myd gwyddoniaeth a thechnoleg.

Thema eleni yw "Cefnogi Datblygiad Gyrfa Cynnar", ac mae'n cael ei noddi ar y cyd gan Technocamps ym Mhrifysgol Abertawe. Bydd y digwyddiad yn dangos beth yw'r heriau o ran addysg a busnes, a hynny'n rhanbarthol ac yn genedlaethol; bydd yn canolbwyntio ar gyflawniadau ledled Cymru, a bydd grŵp amrywiol o siaradwyr allweddol yn annerch.

Mae Diwrnod Rhyngwladol Menywod (8 Mawrth) yn ddiwrnod byd-eang sy'n dathlu cyflawniadau economaidd, gwleidyddol a chymdeithasol menywod yn y gorffennol, y presennol a'r dyfodol. Bob blwyddyn, mae miloedd o ddigwyddiadau'n cael eu cynnal ledled y byd, i ysbrydoli a dathlu cyflawniadau. Mae gwe fyd-eang o weithgarwch cyfoethog ac amrywiol yn cysylltu menywod o bedwar ban y byd, yn cynnwys ralïau gwleidyddol, cynadleddau busnes, gweithgareddau llywodraethau, a digwyddiadau rhwydweithio.

5:00-6:00yh Cofrestru, Derbyniad Diodydd a Rhwydweithio

6:00-6:10yh Croesawiad gan Kev Johns, Swansea Sound

6:10-6:20yh Sylwadau Agoriadol, Julie James AC

6:20-6:25yh Diweddariad Technocamps, Julie Walters, Rheolwr Prosiect

6:25-6:45yh Andrea Meyrick, Techniquest

6:45-8:15yh Cinio Gala

8:15-8:35yh Yr Athro Wendy Dearing, Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru

8:35-9:00yh Trafodaethau Panel  

9:00yh Sylwadau i Gloi

Daw'r digwyddiad i ben am 9yh, ond mae croeso i westeion fwynhau diodydd a rhwydweithio tan 10yh.

To register for this event simply click here.

Gobeithio y byddwch yn gallu ymuno â ni am noson i'ch diddanu, eich cymell a'ch ysbrydoli.