Prifysgol Abertawe yn lansio CoSMOS

adminDigwyddiad, Newyddion, Newyddion a Digwyddiadau

Mae CoSMOS wedi'i leoli ar ail lawr Adeilad Margam ar Gampws Parc Singleton. Mae'r safle'n gartref i bum prosiect allgymorth ac ymgysylltu â'r cyhoedd.

Nod Rhaglen Gymorth Mathemateg Bellach (FMSP) Cymru yw cynyddu nifer y myfyrwyr sy'n astudio ar gyfer cyrsiau UG/Safon Uwch mewn Mathemateg a Mathemateg Bellach, yn ogystal ag annog rhagor o fyfyrwyr o Gymru i wneud cais i astudio cyrsiau addysg uwch mewn Mathemateg a phynciau STEM.

Mae'r Casgliad Hanes Cyfrifiadura yn cynnwys cyfarpar, meddalwedd, archifau, effemera, hanes llafar a fideos. Sefydlwyd y casgliad yn nhymor yr hydref 2007, er mwyn astudio datblygiadau ac arloesedd technolegol hanesyddol, ac, yn benodol, y berthynas rhwng technolegau cyfrifiadurol a phobl a'r gymdeithas.

Mae'r prosiect Oriel Gwyddoniaeth yn cynnal arddangosfeydd sy'n llawn chwilfrydedd, a hynny'n seiliedig ar y gwaith ymchwil ysbrydoledig a wneir yn y Brifysgol, er mwyn ei arddangos i'r gymuned. Nod Oriel Gwyddoniaeth yw annog a bwydo diddordeb cynhenid y cyhoedd mewn gwyddoniaeth, technoleg a gwaith ymchwil arloesol, yn ogystal ag ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr, technegwyr a pheirianwyr.

Mae Cynllun Gwyddoniaeth i Ysgolion Prifysgol Abertawe (S4) yn cysylltu disgyblion Cyfnod Allweddol 3 yn Ne Cymru â gwyddoniaeth prifysgol. Nod y prosiect S4 yw ennyn diddordeb pobl ifanc a'u hannog i gymryd rhan mewn gwyddoniaeth trwy gynnal gweithdai ymarferol, sy'n seiliedig ar ymchwil, ac sy'n llawn chwilfrydedd, a hynny'n rhad ac am ddim. Nod S4 yw gwella'r mynediad at ddysgu STEM, ynghyd â gwella cyrhaeddiad a nifer y myfyrwyr sy'n ymgymryd â phynciau STEM mewn addysg uwch.

Mae Technocamps yn brosiect ar gyfer Cymru gyfan dan arweiniad Prifysgol Abertawe, sy'n anelu at ysbrydoli, ysgogi ac ennyn diddordeb pobl mewn Addysg Cyfrifiadureg a Thechnoleg. Mae Technocamps yn darparu gweithdai cyfoethogi STEM, adnoddau addysgu, hyfforddiant athrawon, Prentisiaethau Gradd ac amrywiaeth eang o weithgareddau eraill, gan fynd i'r afael â diffygion mewn addysg a sgiliau cyfrifiadurol a nodwyd gan sefydliadau addysg uwch a'r diwydiant.  

Cynhaliwyd y digwyddiad lansio CoSMOS ar 20 Mai 2019 pan agorwyd y gofod yn syddogol gan yr Athro Peter Halligan, Prif Ymgynghorydd Gwyddonol ar gyfer Cymru. Gwahoddwyd gwesteion nodedig i fynd ar daith of gwmpas CoSMOS i weld sut y bydd yn gweithredu, ynghyd â chymryd ran mewn sesiynau/gweithdai labordy a gynhelir gan dimau'r prosiect S4 a Technocamps.

Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams:

“Our national mission for education in Wales seeks to raise standards and ensure an education system that is a source of national pride and confidence.  Central to this is improving the way we teach subjects like science and mathematics in our schools. Swansea University’s new College of Science Margam Outreach Space is an excellent example of seeing these important projects at first hand.”

Kirsty Williams AM

Mae CoSMOS yn grŵp rhyng-gysylltiedig unigryw o weithgareddau STEM, sy'n llywio agwedd bwysig ar genhadaeth ddinesig y Brifysgol. Roedd y digwyddiad yn gyfle i gwrdd â thimau'r prosiect, dysgu rhagor am ein gwaith gydag ysgolion partner a'r gymuned ehangach, yn ogystal â gweld y cyfleusterau sydd gennym i'w cynnig yn y Brifysgol.