English

Athrawon Yn Bwrw Ati i Ddysgu Rhaglennu Ar Ein Cwrs Technoteach

Cyhoeddwyd: 15 October 2018

Unwaith eto mae gwyliau'r haf wedi dod ac mae carfan newydd o athrawon sydd wedi cofrestru ar ein cwrs Technoteach wedi dechrau datblygu eu sgiliau rhaglennu. Ar gyfer y Pedwerydd flwyddyn yn rhedeg cwrs achrededig DPP Technoteach, gwelwyd athrawon o bob cwr o Gymru yn fynychu sesiynau pythefnosol a luniwyd i wella eu gwybodaeth am gysyniadau rhaglennu a sut i gyfieithu hyn yn weithgareddau hwyliog ac effeithiol yn eu hystafelloedd dosbarth. Mae'r sesiynau ar gyfer y carfan Cynradd eleni wedi'u lleoli yng Nghaerdydd gyda 17 o athrawon o Abertawe i Gasnewydd yn edrych i wella'u sgiliau wrth baratoi ar gyfer cyflwyno gwersi yn seiliedig ar y Fframwaith Cymhwysedd Digidol newydd. Mae'r sesiynau ar gyfer y garfan Uwchradd yn cael eu cynnal yn Abertawe, ac am y tro cyntaf yn cael eu cyflwyno yn gyfan gwbl trwy'r Gymraeg gan fod yr holl athrawon ar hyn o bryd yn gweithio mewn ysgolion Cymraeg a dwyieithog. Mae'r athrawon o'r ddau garfan yn gweithio'n galed i fynd i'r afael â chysyniadau rhaglennu trwy ddefnyddio ieithoedd rhaglennu Scratch a Python, gan greu adnoddau defnyddiol ar hyd y ffordd.


Mae'r cwrs wedi'i achredu gan VTCT ac fe'i cyflwynir trwy gydol y flwyddyn academaidd (18 sesiwn diwrnod llawn) gydag athrawon yn cyfarfod unwaith bob pythefnos i ddatblygu eu dealltwriaeth o ystod o bynciau cyfrifiadurol o roboteg i raglennu Python. Mae ffocws cryf y cwrs yn cynnwys paratoi cynlluniau gwaith ac adnoddau cysylltiedig fel bod athrawon yn gallu eu defnyddio ar unwaith yn eu hystafelloedd dosbarth.

Mae pob bwriad i barhau i redeg y cwrs am flynyddoedd i ddod, am fwy o wybodaeth am y cwrs, ewch i:

http://www.technocamps.com/cy/news/free-accredited-cpd-opportunity-for-teachers-across-wales-2018


Yn union fel mae ein hathrawon yn mynd yn datrys heriau rhaglennu yr wythnos hon, mae miloedd o weithgareddau yn cael eu cynnal ar draws Ewrop i ddathlu Wythnos Cod yr UE. Mae Wythnos Cod yr UE yn fenter ar y cyfan sy'n anelu at ddod â chodio a llythrennedd digidol i bawb mewn ffordd hwyliog ac ymgysylltiol. Os oes gennych ddiddordeb mewn dod o hyd i ddigwyddiadau neu adnoddau defnyddiol, gallwch chi wneud hynny ble bynnag yn Ewrop yr ydych chi!

Am ragor o wybodaeth ar  Wythnos Cod yr UE, ewch i:

https://codeweek.eu

Y newyddion diweddaraf

Mae cymwysterau TGCh a ddefnyddir mewn ysgolion a cholegau addysg bellach yn hen ac mae angen diwygiad sylfaenol arnynt.

Mae cofrestru ar gyfer Clwb Codio Ar ôl Ysgol Technocamps Tymor y Gwanwyn (Ionawr - Ebrill) nawr ar agor. Brysiwch i gofrestru gan fod llefydd yn brin. Cliciwch ar y ddolen i gael gwybod mwy

Mae rhaglen allgymorth ysgolion arloesol Technocamps wedi cyhoeddi y byddant yn ailymuno gyda Theatr na nÓg ar gyfer prosiect cydweithredol yn Hong Kong ym mis Ionawr fel rhan o'r Gŵyl SPARK.

Dewch yn Rhan

Oes gennych chi ddiddordeb mewn trefnu gweithdy Technocamps ar gyfer eich ysgol neu goleg? Rydym yn cynnig amrywiaeth o weithdai yn seiliedig ar feddwl cyfrifiannol i gefnogi myfyrwyr a staff trwy CA2 i CA5. Cysylltwch â ni i gael gwybod mwy.

Cysylltu â'r Tîm