Cystadleuaeth Roboteg Technocamps 2018 - Artistiaid Awtonomaidd

adminCystadleuaeth, Digwyddiad, Newyddion, Newyddion a Digwyddiadau

Mae'n bleser gennym gyhoeddi bod Cystadleuaeth Roboteg Technocamps yn ôl gyda'r diwrnod cystadlu olaf i'w gynnal ar 5 Gorffennaf 2018. Thema'r gystadleuaeth eleni yw "Artistiaid Awtonomaidd" ac rydym yn herio disgyblion o bob cwr o Gymru i ateb y cwestiwn: "A yw robotiaid yn gallu cynhyrchu Celf?" 

Yr her yw ddylunio a chreu robot sy’n gallu cynhyrchu celf. Gallai hyn fod ar unrhyw ffurf, p'un a yw'n perfformio, cerddorol, darlunio neu unrhyw beth arall y gallech feddwl amdano. Mae creadigrwydd yn allweddol!

Mae'n rhaid i dimau greu dyluniad gwreiddiol ar gyfer eu robotiaid, ac yna ddatblygu a llunio prototeip i'w gyflwyno yn rownd derfynol y gystadleuaeth. Bydd y rownd derfynol hefyd yn cynnwys her FYW - a chaiff y manylion eu cyhoeddi yn y digwyddiad.

Cofiwch: wrth greu'r robot, mae'n hanfodol ystyried y canlynol:

- A yw'n arloesol? Sut mae'n wahanol i dechnolegau cyfredol sydd ar gael? A yw'n ddatrys problem 'unigryw'?

- A fydd yn gwella perfformiadau artistig? Pa nodweddion sy'n caniatáu i'ch robot ragori ar berfformiad pobl?

- Sut y mae eich robot yn well na'i gystadleuwyr? Pam y byddai'n well gan rhywun ddefnyddio robot na pherson i gwblhau eich tasg ddewisol?

- Dewch i gael hwyl a bod yn greadigol!

Bydd Technocamps yn benthyg y pecynnau robot LEGO Mindstorms i'r Clybiau Technoleg sy'n cystadlu (os oes angen), ynghyd ag unrhyw adnoddau sy'n angenrheidiol i greu eu robot.

Gobeithio y byddwch yn gallu cymryd rhan yn y gystadleuaeth; roedd digwyddiad y llynedd yn llwyddiant ysgubol, ac edrychwn ymlaen at ailadrodd hyn eleni. Yn 2017, roedd ysgolion ledled de a gorllewin Cymru wedi cymryd rhan yng Nghystadleuaeth Roboteg Technocamps, a chyflwynwyd pecyn LEGO Mindstorm i ysgol yr enillwyr. 

Gallwch gofrestru ar gyfer y gystadleuaeth yma: https://goo.gl/forms/eECWZUp644GfX4RE3

Am fwy o wybodaeth, gweler ein llyfryn: TechnocampsRoboticsCompetition2018.pdf