Alice
Amgylchedd rhaglennu 3D yw Alice. Mae’n caniatáu i chi greu ffilmiau a gemau, dweud storïau neu greu animeiddiadau.
Mae’n gyflwyniad gwych i faes Rhaglennu Gwrthrych-Gyfeiriadol (OOP), gan eich galluogi i ailddefnyddio blociau o godau i sicrhau effeithlonrwydd ac annog dealltwriaeth dda o gysyniadau codio cyffredinol. Mae hefyd yn gyfle gwych i chi ddatblygu eich hyder gan ddefnyddio “dulliau” a “gwrthrychau” nid yn unig o fewn yr amgylchedd 3D yn Alice, ond hefyd ar gyfer sgiliau rhaglennu hanfodol yn y dyfodol.