Greenfoot
Mae Greenfoot yn amgylchedd syml i ddatblygu gemau trwy raglennu gweledol, sy’n defnyddio iaith raglennu boblogaidd Java. Mae Java yn uchel iawn ei bri yn y diwydiant, felly mae’r amgylchedd hwyl hwn yn wych er mwyn i ddechreuwyr gael syniad da o’r iaith a’i medrau.
Mae ein gweithdy’n tywys myfyrwyr trwy’r broses o ddylunio gemau, ac erbyn diwedd y gweithdy bydd myfyrwyr wedi cynhyrchu gêm y gallant ei chwarae, ei lawr lwytho a mynd adref â hi! Bydd myfyrwyr yn ymgyfarwyddo â defnyddio newidynnau, datganiadau amodol a chylchoedd!